Mae gan Ynys Enlli draddodiad hir a dwfn o hanes ysbrydol
Mae gan Ynys Enlli draddodiad hir a dwfn o hanes ysbrydol. Roedd mynachod yn byw a gweddïo ar yr ynys am dros fil o flynyddoedd, ac yn fwy diweddar, bu’r fangre hynod hon yn bwysig i lawer o bobl cadarn eu ffydd.
Gall ymwelwyr yr ynys gweld olion tameidiog abaty y drydedd ganrif ar ddeg o’r Canoniaid Awstinaidd a gymerodd drosodd o sefydlu Celtaidd hynafol y chweched ganrif. Mae’r tŵr heb do wedi’i addasu ar gyfer y rhai sy’n dymuno cynnal gwasanaethau anffurfiol yn yr awyr agored.
Gerllaw mae croes Geltaidd yn coffáu’r gorffennol crefyddol Cristnogol bellach yn bennaf ac mae nifer iawn, 20,000, o seintiau yn honni eu bod wedi’u claddu yn y safle neu gerllaw.
Ym 1875 adeiladwyd Capel gan yr Arglwydd Niwbwrch ac mae’n parhau i fod ar agor at ddibenion addoli a myfyrdod.
Pererindod
Os y byddwch yn ffodus i fentro dros y Swnt yn y niwl neu’r haul, unwaith rydych yn dod o dan gysgod Pen Cristin a troi am y Cafn, mae awyrgylch heddychlon Enlli yn lapio amdanoch fel blanced. Ydi hyn oherwydd y pererinion sydd wedi troedio cyn chi ynteu rhywbeth arall?
Mae wedi bod yn fan pererindod ers y cyfnod canoloesol, ac mae’n parhau i ddenu pererinion o bob cwr o’r byd.
Enlli yw cyrchfan olaf Llwybr Pererinion Gogledd Cymru, ac yn gymal arwyddocaol i lawer o deithiau ffydd personol eraill. I’r rhai sy’n ymweld ar gyfer y diwrnod yn unig, mae llwybr pererindod fer y gellir ei ddilyn fel ffordd o archwilio’r ynys, gan oedi i fyfyrio mewn mannau symbolaidd fel y goleudy, adfeilion yr abaty a’r ffynnon sanctaidd. Mae croeso i’r rhai sy’n aros yn hirach hefyd ymuno â’r ‘gweddïau pererinion’ anffurfiol, a gynhelir yn yr oratory ar nos Iau a bore Sul, sy’n ein gwahodd i oedi ar daith ein bywyd a ‘dysgu rhythmau gras heb eu gorfodi’.
Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am bererindod lawrlwythwch ein llyfryn.
Bardsey is an island there is no going / to but in a small boat the way / the saints went.
RS Thomas, Pilgrimages
Edrych dros Swnt Enlli
Encil
Mae Ynys Enlli yn un o’r ‘mannau cyfrin’ lle teimlir agosatrwydd tragwyddoldeb. Lleoliad perffaith i’r rheini sy’n chwilio am adfywiad ysbrydol, unai wrth dreulio ychydig o ddyddiau o fyfyrdod personol neu thrwy gymryd rhan mewn encil ffurfiol.
Mae Enlli yn fan lle gellir synhwyro fod ‘prayer has been valid’ (T. S. Eliot). Cynhelir gwasanaethau byr rheolaidd yn y capel a’r betws, yn ogystal â’r cyfleoedd niferus am weddi preifat ymysg natur hardd yr ynys. Wrth encilio o bwysau a dwndwr y byd, daw’r ymwelydd i ymdeimlo’r rhyddid i weddïo, darllen, myfyrio, trafod, cerdded, ysgrifennu, darlunio, canu, archwilio… mewn geiriau eraill, gwneud beth sy’n ofynnol i adfywio’r ysbryd.
Mae Ynys Enlli yn wers mewn gostyngeiddrwydd. Hyd yn oed cyn i ni gyrraedd yno, rydyn ni'n ildio rheolaeth i'r elfennau. Mae'n 'Ynys o 20,000 o seintiau' wedi'i socian â gweddïau. Gorliwio canoloesol efallai, ond efallai mai dyna pam mae'r traddodiad o bererindod sydd bellach yn cael adfywiad mewn poblogrwydd, mor gymhellol yma. Gallwn olrhain yr alwad i 'daith y galon' gan y seintiau Celtaidd cynnar. Mae caplaniaid yn sefyll ar ysgwyddau cewri, yn y 'lle tenau' hwn lle mae'r rhwystr rhwng y nefoedd a'r ddaear yn cael ei ostwng.
Eryl Parry
Caplan
Caplaniaeth
Mae caplan ar yr ynys yn ystod misoedd yr haf, fel rhan o’r cynllun eciwmenaidd a gydlynir gan Bwyllgor Ysbrydolrwydd Ynys Enlli.
Y caplan fydd yn trefnu a hysbysebu’r gwasanaethau a gynhelir yn y capel a’r betws yn ogystal â bod ar gael i sgwrsio’n dawel gydag ymwelwyr dydd ac wythnos. Mae hyn yn wasanaeth gwirfoddol pwysig ac yn wobr amhrisiadwy i’r sawl sy’n ei gynnal. I unrhyw un sy’n ystyried caplaniaeth ac sydd wedi darllen y swydd ddisgrifiad, llenwch a dychwelwch y ffurflen gais.
Lle nesaf?