Golygfeydd godidog, arfordir sy'n cynnal dolffiniaid a llamhidyddion, ac un o brif lwybrau adar mudol Cymru.
Mae Ynys Enlli yn enwog am ei bywyd gwyllt ac yn lle perffaith i weld brân goesgoch, morloi llwyd, pâl a’r dryw benwaig Manaw. Mae 332 o rywogaethau o adar wedi’u cofnodi ar yr ynys, ac mae’n rhan allweddol o lwybr mudo adar.
Mae golygfeydd, synau ac arogleuon bywyd gwyllt Enlli yn angoesadwy. Eisteddwch a gwrandewch ar y morloi’n canu ar ddiwrnod haf tawel; gwrandewch ar y dryw benwaig Manaw yn dychwelyd i’r tir dros nos ac yn galw at ei gilydd dan ein tywydd tywyll; neu gorweddwch ymhlith y glustog fair binc llachar sy’n blodeuo ar ymylon arfordirol yr ynys.
Clochdarod y cerrig
Dynodiadau
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Mae Ynys Enlli yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn safle sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r amrywiaeth eang o ddiddordeb arbennig yn cynnwys adar, gyda’r ynys yn gorwedd ar lwybr mudo hollbwysig adar Ewrop. Mae’n gartref i blanhigion blodeuol prin, cen, conwydd a mwsoglau, glaswelltir a rhostir arfordirol, silffoedd creigiog ac amrywiaeth o fywyd morol.
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, fel perchnogion, a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fel corff cynghori Llywodraeth Cymru ar gadwraeth bywyd gwyllt, yn sicrhau bod buddiannau bywyd gwyllt yr ynys yn cael eu ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Mae nodweddion pwysig byd natur yr ynys yn cael eu rheoli trwy gyfrwng fferm yr ynys, tra bod Gwylfa Adar a Maes Enlli yn monitro bywyd gwyllt yr ynys.
Morloi llwyd
Bywyd gwyllt
Y lle perffaith i ymgysylltu â natur.
Ymwelwch yn ystod tymor mudo adar a gallech ddod ar draws rhai ymwelwyr prin ar eu ffordd i ardaloedd magu. Cewch aros dros nos a phrofi sŵn syfrdanol dros 30,000 o adar drycin Manaw yn cyrraedd i nythu ar Enlli, un o safleoedd pwysicaf y byd ar gyfer yr adar mor gwych hyn. Mae morloi llwyd bach yn cael eu geni’ngynnar yn yr hydref, a gellir gweld dolffiniaid, llamhidyddion a morfilod yn rheolaidd yn y dyfroedd o amgylch Enlli.
Noddfa Awyr Dywyll
Yn falch o fod y Noddfa Awyr Dywyll cyntaf yn Ewrop
O fudd i fywyd gwyllt, pobl a ffordd o’n cysylltu â’n treftadaeth, mae Awyr Dywyll Enlli ymhlith y tywyllaf yn Ewrop, ar ôl cael eu hardystio gyda’r dynodiad tywyllaf posibl, Noddfa Awyr Dywyll, gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol yn 2023 ar ôl 10 mlynedd o fonitro.
Gwartheg Enlli
Ffermio
Ffermio gyda natur
Mae’r ynys wedi cael ei ffermio neu’r tir wedi ei drin ers cannoedd o flynyddoedd. Mae hen ffiniau caeau i’w gweld yn glir o’r mynydd heddiw, gyda system gymhleth o gaeau.
Trwy gydweithio’n agos ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r Wylfa Adar, mae’r ffermwr, Gareth Roberts yn rheoli’r fferm er lles bywyd gwyllt arbennig Enlli. Mae hyd glaswellt y borfa yn cael ei gadw’n isel mewn rhai ardaloedd er budd tiroedd bwydo’r frân goesgoch. Mae gwlyptiroedd yn cael eu pori gan wartheg ar adegau penodol i gynnal blodau gwyllt ffyniannus fel tegeirian brych y rhos.