Hanes diwylliannol hir
Mae artistiaid wedi cael eu denu i Enlli ers blynyddoedd lawer ac mae’r Ymddiriedolaeth wedi croesawu nifer o artistiaid preswyl i’r ynys, mae’r rhain yn amrywio o awduron i arlunwyr i gyfrwng cymysg.
Celf, Iaith a Chân; mae gofod ar Enlli argyfer creu, datblygu, arbrofi, cynnal gweithdai a chydweithio gydag artistiaid ac unigolion creadigol.
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn croesawu artistiaid preswyl i’r ynys ers 1999; fel elusen rydym yn angerddol dros ddarparu’r cyfle yma i unigolion a grwpiau a’r gofod ar yr ynys i gynnal gweithdai ar gyfer ein hymwelwyr.
Llofft Nant: Gofod preswylfeydd ac encilion creadigol yn Ynys Enlli
Mae gan iard Llofft Nant ddwy stiwdio sy’n cael eu datblygu i gefnogi presenoldeb celfyddydol ac i alluogi sylfaen presenoldeb hirdymor o amrywiaeth o artistiaid a phobl greadigol o ledled y wlad.
Os oes gennych ddiddordeb mewn aros ar yr ynys fel artist, cysylltwch â ni i dderbyn gwybodaeth am breswyliadau neu encilion sydd ar gael.
"Gwehyddu ac anadlu" - Wythnos o greu basgedi gyda Jo Porter
Dates: 29th August – 5th September 2026
Location: Ynys Enlli, North Wales
Come and spend a week with likeminded people on the magical island of Ynys Enlli exploring the ancient craft of basket weaving and enjoying locally sourced and seasonal home cooked vegetarian food by the ‘Little Cooking Pot.
Arddangosfeydd nesaf
We regularly host exhibitions on Enlli, featuring works from visiting artists as well as our Artists in Residence. In addition, we’ve partnered with local galleries and museums to showcase a diverse range of artwork, further connecting Enlli’s creative spirit with the wider community.
05.06.25
Arddangosfa Storiel - Artistiaid Preswyl o 2024
Dangos gwaith a gynhyrchwyd trwy’r preswyliaeth 2024 a gweithdai cysylltiedig. Mae’r artistiaid yn cynnwys: Cai Tomos, Gabriella Rhodes, Harrie Fuller, Claire Scott, Lilly Tiger, Sophie Goard, Siôn Emyr
19.06.25
Gweledigaethau Enlli
Gwaith gan dair cenedl o gelfyddydwyr wedi’u hysbrydoli gan dirwedd a bywyd Ynys Enlli. Brenda Chamberlain, Amelia Shaw-Hastings, Jon Hastings.
Carreg Fawr, Ynys Enlli
Enlli fel ysbrydoliaeth i artistiaid
Enlli has been a very inspiring place for artists of all kinds for many years, and it continues to be so until this day. Below are snapshots of photographers, artists and writers who have been inspired by Enlli.
Jo Porter
Bu Jo yn byw ac yn gweithio ar Enlli o 2007-2018 ac mae'n mwynhau defnyddio deunyddiau crai fel gwlân a helygen o'r ynys i wneud darnau defnyddiol a hardd.
Darllenwch mwy
Kim Atkinson
Bu'r artist bywyd gwyllt Kim Atkinson yn byw ar yr ynys am saith mlynedd cyntaf ei bywyd ac eto am ddeng mlynedd yn yr 1980au a'r 90au.
Darllenwch mwy
Brenda Chamberlain
Bu'r artist, awdur a bardd Brenda Chamberlain yn byw yng Ngharreg o 1947 i 1962.
Darllenwch mwy
Emyr Glyn Owen
Mae Emyr wedi bod yn byw ac yn gweithio ar Enlli am y 5 mlynedd diwethaf fel Warden a Rheolwr yr Ynys.
Darllenwch mwy
Jo Porter
Helyg a gwlân
Roedd Jo yn byw a gweithio ar Enlli o 2007-2018 ac mae hi’n mwynhau defnyddio deunyddiau crai megis gwlân a helyg yr ynys i wneud darnau defnyddiol a hardd. Mae Jo yn gwneud rygiau gwlân, basgedi helyg a nifer o eitemau ffelt; mae’r rhain ar gael i’w prynu yn ei siop ar yr ynys neu drwy ei gwefan.
Kim Atkinson
Artist
Bu’r arlunydd bywyd gwyllt, Kim Atkinson, yn byw ar yr ynys am saith mlynedd cyntaf ei hoes ac yna unwaith yn rhagor yn yr 1980au a’r 1990au. Mae ei gwaith wedi ei arddangos ar hyd a lled Cymru a Lloegr ac oherwydd ei henw da fel artist cafodd ei gwahodd i weithio mewn llawer rhan o’r byd gan gynnwys Awstralia a Gwlad Pwyl. Mae delweddau nodweddiadol Kim i’w gweld ar lawer o’r nwyddau a werthir yn y siop.
Brenda Chamberlain
Bardd, awdur ac arlunydd
Bu’r arlunydd, yr awdur a’r bardd Brenda Chamberlain yn byw yng Ngharreg Fawr rhwng 1947 ac 1962. Roedd yn gyfnod hynod o gynhyrchiol yn ei bywyd. Yn ystod y cyfnod hwn enillodd Fedal Aur Celf yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Mae modd gweld rhai o’r murluniau a beintiodd ar waliau Carreg hyd y dydd heddiw, ac ysbrydolwyd amryw o’i pheintiadau a’i lluniau gan yr ynys, yn ogystal â’i nofel Tide Race: 1962, yn ei bumed argraffiad – Seren, Mawrth 2019.
Emyr Glyn Owen
Peintiwr
Mae Emyr wedi bod yn byw ac yn gweithio ar Enlli am y 5 mlynedd diwethaf fel Warden a Rheolwr yr Ynys. Mae Emyr yn cymryd ysbrydoliaeth gan Enlli ac yn dal natur wyllt yr ynys yn ei baentiadau dramatig.
Lle nesaf?