Ynys fach llawn diwylliant, hanes, bywyd gwyllt a harddwch naturiol
Saif Ynys Enlli, “yr ynys yn y llif” 3km o ben eithaf Penrhyn Llŷn, gogledd Cymru. Dyma ynys sydd wedi ei hamgylchynu gan geryntau a llanw cryf. Saif Mynydd Enlli 167m uwchlaw’r môr, caiff’i orchuddio â chlustog Fair pinc, grug porffor, a mewn mannau, cen euraidd prin. Mae’r Mynydd yn amddiffyn yr ynys o’r dwyrain, ac yn cuddio’r tir mawr o’r rhan fwyaf o’r ynys, sy’n gwneud iddi deimlo’n gwbl ynysig.
Mae tir yr ynys wedi cael ei ffermio ers cenedlaethau; heddiw mae Enlli dal yn gartref i fferm lewyrchus, a physgodfan cimychiaid a chrancod, Gwylfa Adar a bywyd gwyllt godidog gan gynnwys dros 200 o forloi llwyd, a phoblogaeth gynyddol o adar drycin Manaw a brain coesgoch.
Yn fan pererindod ers y 6ed ganrif, heddiw gallwch fwynhau Enlli drwy aros yn un o’r naw o adeiladau rhestredig Gradd II, lle gall unigolion, teuluoedd a grwpiau mwy gael profi bywyd hudol yr ynys.
Bywyd ar Ynys Enlli
Difrod Stormydd y Gaeaf
Hanes Mari Huws Jones, Warden Enlli wrth iddi hi adlewyrchu ar y difrod i adeiladau'r ynys ar ôl Storm Claudia
Gwirfoddoli ar Enlli
Mis yn byw a gwirfoddoli ar Ynys Enlli gan Freya Canham
Wythnos o Creu Basgedi
“Gwehyddu ac anadlu”, wythnos o wneud basgedi gyda Jo Porter
Encil Greadigol 2026
Mae Ynys Enlli yn cynnig blaenoriaeth archebu ar gyfer encilion creadigol yn ystod tymor 2026.
Bywyd fel Warden Enlli
Mae yno batrymau i fywyd yma, rhai mor amlwg â phatrwm y llanw a’r trai ac eraill yn amlygu eu hunain ddim ond rŵan yn ystod ein pumed gaeaf.
Datganiad o ddiddordeb - Ffermio cadwraeth Enlli
Mae Ynys Enlli yn chwilio am deulu, neu gyplau, ar gyfer cyfle anhygoel i ymuno â chymuned yr ynys a bod yn rhan annatod o gyflawni ffermio cadwraeth Enlli.
Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth ac i ddatgan eich diddordeb
Yn falch o fod y Noddfa Awyr Dywyll cyntaf yn Ewrop
Darllen mwy
Cynlluniwch eich ymweliad
Mae’r cwch i Enlli yn croesi o Borth Meudwy, cildraeth bysgota lleol bach ond gweithgar ger Aberdaron. Mae parcio ar gael ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ben y trac i lawr i Borth Meudwy. Dilynwch LL53 8DA am gyfarwyddiadau i’r maes parcio. Sylwer nad oes cyfleusterau toiledau yn y maes parcio hwn nac ym Mhorth Meudwy. Rydym yn argymell galw i mewn i Aberdaron ar eich ffordd drwyddo lle mae cyfleusterau toiledau a rhai caffis a becws ardderchog.
Os ydych chi’n teithio ar fws, mae’n bosibl cerdded i Borth Meudwy o Aberdaron ar hyd llwybr yr arfordir, sy’n cymryd tua 30 munud.
Mae gennym amrywiaeth o dai rhestredig Gradd 2, llofftiau a bwthyn llofft crog sydd ar gael i’w archebu ar gyfer arosiadau wythnosol rhwng Ebrill a Medi bob blwyddyn.
Ar Enlli, mae toilet cyhoeddus compost, dim ond 10-15 munud i ffwrdd o lle mae’r cwch yn glanio.
Am damaid i fwyta, mae’r caffi yn Nhŷ Pellaf yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, cacennau, brechdanau, a phrydau cartref blasus (nodwch, mae angen trefnu prydau ymlaen llaw).
Gyda signal ffôn cyfyngedig ledled yr ynys a dim Wi-Fi yn y tai gwyliau, mae Enlli yn cynnig y cyfle perffaith ar gyfer ‘detox’ digidol a dihangfa rhag bywyd prysur.